ARCHEBU DRWY’R BOTWM ‘ARCHEBU NAWR
Ffoniwch ni i Archebu
029 2082 9970
E-bost
Dod o hyd i ni
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Ffordd Watkiss, Bae Caerdydd, CF11 0SY

Beth bynnag rydych chi'n chwilio amdano yr haf hwn, mae padlfyrddio yn sicr o gynnig ychydig o hwyl, ffitrwydd, hwb ychwanegol i’ch hyder a chyfle i fwynhau’r awyr agored.

Wedi'i enwi gan y Sunday Times fel y gweithgaredd gwyliau gartref mwyaf poblogaidd, mae padlfyrddio yn ennill poblogrwydd cynyddol ymysg padlwyr newydd a phobl ifanc. Os ydych wedi bod yn hiraethu am ddianc, wedi cael bwrdd yn ystod y cyfnod cloi a gallech wir fanteisio ar rywun yn dangos sut i badlfyrddio, neu heb ddarganfod eto beth yw’r holl ffwdan, yna DGRhC yw’r lle i fynd i badlfyrddio yng Nghaerdydd. Mae gennym yr holl offer sydd ei angen arnoch i'ch rhoi ar ben ffordd, y cyfan sydd ei angen arnoch yw cofio eich tywel, £1 sbâr ar gyfer y locer a rhywfaint o eli haul.

GWERSI PADLFYRDDIO +

Mae meistroli unrhyw chwaraeon padlo yn dechrau gyda gwers broffesiynol. Byddwch yn barod i sefyll gyda'r holl sgiliau a addysgir gan ein harbenigwyr chwaraeon padlo cyfeillgar a gwybodus. Mwynhewch 'Sesiwn Blasu Padlfyrddio’ a fydd yn dysgu popeth sydd angen i chi ei wybod i godi ac i ddechrau symud mewn dwy awr. Yn wahanol i lawer o'n sesiynau Padlfyrddio, mae Sesiynau Blasu Padlfyrddio yn addas i blant 12oed + ac felly’n cynnig gweithgaredd gwych i bobl ifanc yn eu harddegau gymryd rhan ynddo. 

Os ydych chi'n chwilio am sesiynau menywod yn unig, yna mae ein Cwrs 'Cyflwyniad i Badlfyrddio i Fenywod yn Unig' 4 wythnos yn ddilyniant gwych o 'Sesiwn Blasu Padlfyrddio'.

IOGA PADLFYRDDIO

Iawn, mae angen i ni gyd weithio ar ein hystum a'n cydbwysedd.  Ond os ydych chi'n iogi rheolaidd, beth am gymysgu eich trefn arferol a mynd i'r dŵr yn ystod sesiwn gyda'n hathrawes ioga ar y safle Ceri? Y dosbarth ymarfer corff perffaith ar gyfer yr haf sy'n eich galluogi i fwynhau’r machlud haul a’r olygfa a gwrando ar y llanw’n golchi’r traeth, tra bo aer y môr yn taro'ch wyneb. Heriwch, cryfhewch ac ymlaciwch eich corff a'ch meddwl. Mae pob dosbarth yn para 1.5 awr ac yn cael ei gynnal yn DGRhC bob nos Wener o 6.30pm.

PADLFYRDDIO A CHYMDEITHASU

Dewch i gymdeithasu ar y dŵr a phadlfyrddio cymaint ag y mynnwch gyda ni, bob dydd Mercher o 6pm. 'Padlfyrddio a Chymdeithasu' yw ein cyfarfod wythnosol, sy'n addas ar gyfer unrhyw un sydd wedi cwblhau ein 'Cyflwyniad i Badlfyrddio i Fenywod yn Unig' neu 'Sesiwn Blasu Padlfyrddio'. Mae un peth yn sicr, mae gan bob un ohonom ddiddordeb mewn padlfyrddio, a does dim byd gwell na phadl nos hamddenol ar hyd Afon Elái neu ar draws y Bae, gan gymdeithasu â ffrindiau newydd!

SUP + HIRE

Os nad ydych wedi prynu bwrdd, peidiwch â phoeni. Gallwch logi bwrdd ar gyfer pob sesiwn am ffi ychwanegol fach (yn amodol ar argaeledd). Fodd bynnag, bydd angen i chi ddod â'ch siwt wlyb a'ch cymorth arnofio eich hun.